VitoSCHIAVONEYn dawel dydd Iau, Rhagfyr 11, 2014 yng Nghartref Brynderwen, Llangynnwr, yn gant a chwe mis oed, hunodd Vito yng nghwmni ei deulu. Riposa in pace, vivendo in eterna nei nostri cuori. Gwr annwyl y diweddar Eluned, tad cariadus Antoni ac Emlyn, tad-yng-nghyfraith annwyl Dawn a Tina, tadcu a hen dadcu hoffus a thyner. Angladd dydd Gwener, Rhagfyr 19. Gwasanaeth preifat yng Nghapel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin am 11 y bore ac i ddilyn ym mynwent Bryngwyn, Castellnewydd Emlyn. Ymholiadau pellach at Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Caerfyrddin. Ffon. 01267 241626
Keep me informed of updates